NDM8448 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 09/01/2024 | I'w drafod ar 24/01/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod darparwyr gofal hosbis elusennol yn chwarae rhan hollbwysig wrth ddarparu gofal a chymorth hanfodol i bobl sydd wedi'u heffeithio gan salwch angheuol ledled Cymru;

b) bod y sector hosbis elusennol yn darparu gofal i fwy na 20,000 o bobl bob blwyddyn, gyda'u gwasanaethau yn cefnogi pobl sy'n marw i aros yn eu cartrefi eu hunain a lleihau derbyniadau i'r ysbyty, gan sicrhau canlyniadau gwell i unigolion a'r GIG;

c) bod costau cynyddol o ran ynni a staff, pwysau ar y gweithlu, a galw cynyddol am ofal cymhleth yn fygythiad dirfodol i gynaliadwyedd y sector;

d) bod 90 y cant o hosbisau yn cyllidebu ar gyfer diffyg yn 2023/24 ac yn defnyddio cronfeydd wrth gefn i gwrdd â'r diffyg; ac

e) y bydd y galw a'r angen am ofal lliniarol yn tyfu'n sylweddol wrth i'r boblogaeth heneiddio ac mae mwy o bobl yn byw yn hirach gyda chyflyrau cronig lluosog.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ymrwymo i weithio gyda'r sector i fynd i'r afael â'r heriau cyllido uniongyrchol, gan gynnwys sicrhau cynnig cyflog teg i weithlu hosbisau, sy'n cyfateb i'r cynnydd yn yr Agenda ar gyfer Newid, fel bod cydraddoldeb â chydweithwyr yn y GIG;

b) datblygu ateb ariannu cynaliadwy hirdymor mewn partneriaeth â'r sector, gan gynnwys fformiwla ariannu genedlaethol newydd, cynllun gweithlu, a manyleb gwasanaeth gofal lliniarol a diwedd oes; ac

c) ymestyn adolygiad cyllid gofal diwedd oes Llywodraeth Cymru, y disgwylir iddo ddod i ben ym mis Ionawr 2024, os nad yw hyn yn ymarferol o fewn yr amserlen hon.