NNDM8442 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 02/01/2024

Cynnig bod y Senedd:

1.     Yn cydnabod y dystiolaeth gynyddol bod yr argyfwng chwyddiant wedi cael ei ddefnyddio i guddio'r gorelwa a wneir gan fusnesau mawr mewn sectorau hanfodol gan gynnwys ynni, yswiriant a nwyddau groser.

2.     Yn nodi:

a) bod busnesau mwyaf y DU wedi adrodd cynnydd o 89 y cant mewn elw ers y pandemig, tra mae gweithwyr wedi dioddef y cwymp mwyaf yn eu hincwm gwario ers yr ail ryfel byd; a

b)  bod yr FCA wedi adolygu 11 o gwmnïau yswiriant yn ddiweddar a chanfod bod premiymau yn codi, gan gynnwys cynnydd o 29 y cant mewn yswiriant car.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynnal asesiad o effaith gorelwa ar drigolion yng Nghymru; a

b) cwrdd â chymheiriaid yn y DU a'u hannog i gymryd camau ar unwaith i fynd i'r afael â gorelwa.