NDM8440 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2023 | I'w drafod ar 13/12/2023

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y rôl eithriadol y mae'r sector amaethyddol yn ei chwarae yng Nghymru, gydag amaethyddiaeth yn cyfrannu at dros 220,000 o swyddi.

2. Yn nodi, am bob £1 a fuddsoddir yn y sector amaethyddol, y cynhyrchir £9 i'r economi ehangach.

3. Yn dathlu'r rôl y mae ffermydd teuluol yn ei chwarae wrth gefnogi'r Gymraeg a gwead cymdeithasol cefn gwlad Cymru. 

4. Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno toriadau i gyllideb 2023-24 materion gwledig, sef cyfanswm o £37.5 miliwn.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau na fydd unrhyw doriadau yn cael eu gwneud i gyllideb cynllun y taliad sylfaenol ar gyfer 2024.

Gwelliannau

NDM8440 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 08/12/2023

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1.  Yn cytuno ag egwyddor Llywodraeth Cymru fod yn rhaid i’w pholisi gadw ffermwyr Cymru ar y tir.

2.  Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnal Cynllun y Taliad Sylfaenol yn 2023 ac i beidio â dilyn y penderfyniad yn Lloegr i leihau taliadau i ffermwyr hyd at 55 y cant.

3.  Yn gresynu at y niwed a achosir i allu ffermio yng Nghymru i greu gwerth economaidd a swyddi yn sgil:

a)  polisi Llywodraeth y DU ar fewnfudo ers ymadael â’r UE;

b)  deiliadaeth drychinebus Prif Weinidog blaenorol y DU;

c)  penderfyniad Llywodraeth y DU i dynnu £243 miliwn oddi ar y cyllid ar gyfer cefnogi ffermydd yng Nghymru; a

d)  penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â rhoi ymrwymiad hirdymor o ran cyllid i gefnogi ffermydd.

4.    Yn cytuno bod angen cyfnod pontio teg a chyflym tuag at ddulliau ffermio cynaliadwy ar draws Cymru, er mwyn atgyfnerthu sefyllfa economaidd ffermwyr Cymru ac er mwyn osgoi effeithiau gwaethaf yr argyfwng natur a’r argyfwng hinsawdd.