NNDM8436 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Wedi’i gyflwyno ar 29/11/2023

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i hyrwyddo glanhau safleoedd gwenwynig yng Nghymru.

2. Yn nodi mai pwrpas y Bil fyddai:

a) creu'r corff gwarchod amgylcheddol sydd ei angen yng Nghymru i unioni'r nifer o safleoedd gwenwynig sydd ar ôl o ganlyniad i'n treftadaeth ddiwydiannol;

b) ymgynghori â rhanddeiliaid i sefydlu map o safleoedd gwenwynig ledled Cymru a nodi'r pwerau amgylcheddol o fewn ein cymhwysedd y bydd yn ofynnol gan y corff gwarchod i lanhau ardaloedd o'r fath;

c) mynd ar drywydd llygrwyr, p'un a ydynt yn hanesyddol neu'n fwy diweddar, gyda'r holl bwerau sydd ar gael yng Nghymru i sicrhau bod y gost o unioni eu hetifeddiaeth wenwynig yn cael ei thalu'n llawn ganddynt, a thalu iawndal lle bo hynny'n berthnasol; a

d) hyrwyddo ymgyrch ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd fel y gallant hysbysu awdurdodau am unrhyw feysydd sy'n peri pryder ac adrodd am lygrwyr pan fyddant yn ei weld yn ddigwydd.