NDM8434 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Wedi’i gyflwyno ar 28/11/2023 | I'w drafod ar 31/01/2024Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i sefydlu goruchwyliaeth strwythuredig o reolwyr y GIG, ar ffurf corff rheoleiddio.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) sefydlu corff rheoleiddio proffesiynol ar gyfer GIG Cymru i ddiffinio'r safonau proffesiynol a ddisgwylir gan reolwyr GIG Cymru a bod yn lle i droi ar gyfer y rhai sy'n teimlo nad yw'r safonau hynny wedi cael eu bodloni gan unrhyw reolwr unigol GIG Cymru, a byddai ganddo'r pŵer i rybuddio, cosbi neu dynnu unrhyw reolwr GIG Cymru oddi ar ei gofrestr a gynhelir;
b) diffinio beth yw rheolwr GIG Cymru a chynnal cofrestr o reolwyr GIG Cymru; ac
c) ei gwneud yn ofynnol i holl reolwyr y GIG fod wedi'u cofrestru gyda'r corff rheoleiddio proffesiynol.