NNDM8429 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Wedi’i gyflwyno ar 28/11/2023

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i wneud darpariaethau ar gyfer polisïau a fyddai'n sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ystyried allyriadau a achosir gan nwyddau sy'n cael eu mewnforio i Gymru. 

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:

a) creu dyletswydd i Lywodraeth Cymru osod targedau ar gyfer lleihau'r llygredd a achosir gan fewnforion i Gymru;

b) mynd i'r afael â'r risg bod polisi amgylcheddol yng Nghymru yn arwain at ddibyniaeth gynyddol ar nwyddau gan genhedloedd eraill; ac

c) helpu Cymru i ddod yn genedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang.