NNDM8428 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Wedi’i gyflwyno ar 28/11/2023Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i orfodi gwaith cynnal a chadw cyrsiau dŵr, ffosydd, ceuffosydd, a draeniau ar dir preifat a chyhoeddus.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) mynd i'r afael â'r perygl cynyddol o lifogydd oherwydd yr argyfwng hinsawdd;
b) gwella gwybodaeth y cyhoedd am gyfrifoldeb ynghylch atal llifogydd;
c) sicrhau bod tirfeddianwyr yn ymwybodol o'u cyfrifoldeb i gynnal ffosydd, ceuffosydd a draeniau, a rhoi eglurder ynghylch pa gorff cyhoeddus sy'n gyfrifol am orfodi;
d) gwella ymwybyddiaeth o reoli tir yn briodol ar gyfer dal dŵr;
e) cyflwyno camau mapio draeniau, ceuffosydd a ffosydd i helpu grwpiau llifogydd cymunedol i wybod pa awdurdod neu dirfeddiannwr sy'n gyfrifol am orfodi neu glirio; ac
f) hyrwyddo mentrau lleol a chenedlaethol megis rhybuddion llifogydd a grwpiau llifogydd cymunedol a hyrwyddo gwybodaeth am amddiffynfeydd llifogydd gan gynnwys bagiau tywod.