NDM8419 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2023 | I'w drafod ar 13/12/2023Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar reoleiddio casglwyr dyledion yng Nghymru ymhellach.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) gosod dyletswydd ar ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus i ddefnyddio casglwyr dyledion sydd wedi cofrestru i god ymddygiad sy'n amddiffyn pobl fregus mewn argyfwng costau byw yn unig;
b) cyflwyno cod ymddygiad Cymru gyfan ar gyfer yr holl asiantau casglu dyledion sydd wedi'u cofrestru yng Nghymru; ac
c) grymuso awdurdodau safonau masnach lleol ymhellach i weithredu yn erbyn asiantau sy'n camarwain preswylwyr ynghylch eu pwerau a hawliau preswylwyr.