NNDM8411 - Cynnig Heb Ddyddiad Trafod
Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2023Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod 10 mlynedd ers i arolygiaeth gynllunio Llywodraeth Cymru wrthod cynllun datblygu lleol Wrecsam;
b) bod y cynllun wedi'i wrthod yn bennaf ar sail niferoedd y dyraniadau tai;
c) bod ail gynllun datblygu lleol y cyngor yn seiliedig ar amcanestyniadau poblogaeth o gynnydd o 20 y cant ar gyfer y fwrdeistref, a israddiwyd yn ddiweddarach i 10 y cant;
d) bod poblogaeth y sir yn sefydlog a rhagwelir y bydd yn disgyn;
e) mai'r bwriad oedd i'r cynllun redeg rhwng 2013 a 2028 ac felly dim ond pum mlynedd sydd ar ôl cyn iddo ddod i ben;
f) bod polisi cenedlaethol yn nodi, pan gaiff cynllun ei fabwysiadu, y dylai fod o leiaf 10 mlynedd o'r cynllun yn weddill;
g) dylai pob cynllun datblygu lleol fod yn cydweddu â strategaeth Llywodraeth Cymru, 'Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040'; a
h) bod cynllun datblygu lleol arfaethedig Wrecsam yn mynd yn groes i 'Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040'.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cydnabod y bleidlais ddemocrataidd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i beidio â mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol 2 Wrecsam;
b) gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam drwy gyfarwyddo y dylid tynnu'r cynllun datblygu lleol presennol yn ôl a'i ddiwygio i sicrhau bod y cynllun lleol drafft yn cydweddu â 'Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040' a'i fod yn ennill cefnogaeth lawn aelodau etholedig Wrecsam.