NDM8410 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 15/11/2023 | I'w drafod ar 22/11/2023Cynnig bod y Senedd:
1. Yn dathlu datblygiad a defnydd o dechnolegau arloesol gan wasanaethau iechyd ledled y DU.
2. Yn croesawu'r Uwchgynhadledd Diogelwch Deallusrwydd Artiffisial, yr uwchgynhadledd fyd-eang gyntaf erioed ar ddeallusrwydd artiffisial, a gynhaliwyd ar 1 a 2 Tachwedd 2023.
3. Yn gresynu:
a) nad yw pob meddygfa yn defnyddio ap GIG Cymru;
b) nad yw e-bresgripsiynu wedi'i gyflwyno'n llawn yn GIG Cymru; a
c) bod y seilwaith technolegol sy'n sail i GIG Cymru yn creu rhwystrau i ymarfer clinigol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud yr hyn a ganlyn:
a) cyflwyno ap y GIG ac e-bresgripsiynu ar frys ar draws GIG Cymru gyfan;
b) cyflymu'r broses o integreiddio technolegau digidol a deallusrwydd artiffisial ar gyfer GIG Cymru; a
c) dechrau ar y broses o gael gwared ar dechnolegau'r GIG sydd wedi dyddio.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn nodi pwysigrwydd sicrhau bod gweithio’n digwydd ar draws y DU yn dilyn uwchgynhadledd ddiweddar Llywodraeth y DU ar ddiogelwch deallusrwydd artiffisial (AI), er mwyn sicrhau bod safbwyntiau Cymru yn cael eu hadlewyrchu mewn penderfyniadau a chamau gweithredu yn y dyfodol.
Yn nodi pwysigrwydd datblygiad parhaus gwasanaethau digidol a thechnoleg ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn sicrhau gofal o ansawdd uchel.
Yn croesawu:
a) bod dros 200 o bractisau meddygon teulu bellach yn defnyddio Ap GIG Cymru;
b) mai’r pwriad yw ei gyflwyno ym mhob practis erbyn diwedd mis Mawrth 2024;
c) bod gwasanaeth presgripsiynau integredig yn dechrau cael ei gyflwyno ledled y wlad, wedi i’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig newydd mewn Gofal Sylfaenol gael ei lansio; a
d) gwaith cydgysylltu’r sector iechyd a gofal cymdeithasol ar dechnolegau newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg, megis AI, i helpu i sicrhau eu bod yn cael eu mabwysiadu mewn modd cyfrifol, moesegol, teg a diogel.