NDM8409 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 15/11/2023 | I'w drafod ar 22/11/2023

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) y pwysau costau byw parhaus sy'n wynebu rhentwyr;

b) y cynnydd rhent cyfartalog blynyddol yng Nghymru o 13.9 y cant yn 2021-22;

c) y cynnydd rhent cyfartalog pellach yng Nghymru o 6.5 y cant yn 2022-23, gyda Shelter Cymru yn nodi enghreifftiau o renti'n codi 100 y cant; 

d) mai rhenti myfyrwyr yw 60 y cant o becyn cynhaliaeth cyfartalog y DU, gyda 32 y cant o fyfyrwyr sy'n astudio yng Nghymru yn methu â thalu eu rhenti.

2. Yn credu na ddylai unrhyw un yng Nghymru gael ei roi mewn perygl o fod yn ddigartref o ganlyniad i chwyddiant uchel a diffyg stoc tai fforddiadwy.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith i wneud yr hyn a ganlyn yn y sector preifat:

a) rhewi rhenti; 

b) cyflwyno mesurau i wahardd troi allan y gaeaf hwn.

Ymateb Shelter Cymru i ymgynghoriad Papur Gwyrdd Llywodraeth Cymru: Creu llwybr tuag at dai digonol gan gynnwys rhenti teg a fforddiadwyedd

Gwelliannau

NDM8409 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 16/11/2023

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a)       cymryd camau brys i droi’r miloedd o eiddo gwag yng Nghymru yn gartrefi unwaith eto;

b)      ystyried cyfleoedd gyda’r sector i atal landlordiaid rhag gadael y farchnad rentu yng Nghymru;

c)       gweithio gyda landlordiaid a deiliaid contractau i atal troi pobl allan dros fisoedd y gaeaf;

d)      cyflwyno cynllun gweithredu i adeiladu 12,000 o dai bob blwyddyn; ac

e)      gwneud datganiad ar yr adolygiad o Rhentu Doeth Cymru.

NDM8409 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2023

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi’r pwysau parhaus o ran costau byw y mae pobl sy’n rhentu yn eu hwynebu.

2. Yn croesawu’r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru, i gyhoeddi Papur Gwyn yn amlinellu cynigion ynghylch posibilrwydd sefydlu system o renti teg a hefyd ddulliau newydd o sicrhau bod cartrefi’n fforddiadwy i bobl ar incwm isel.

3. Yn croesawu’r camau pendant, uchelgeisiol a radical ar gyfer diwygio yn y dyfodol a amlinellir yn y Papur Gwyn ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd a ddatblygwyd fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.

4. Yn credu na ddylai unrhyw un yng Nghymru wynebu'r posibilrwydd o ddigartrefedd yn sgil budd-daliadau annigonol sy’n gysylltiedig â thai; 

5. Yn cydnabod mai’r dull unigol mwyaf ar gyfer mynd i’r afael â phroblemau fforddiadwyedd yn y sector rhentu preifat yw cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i godi’r cyfraddau er mwyn adlewyrchu gwir gost rhent.

Papur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru