NDM8397 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 01/11/2023 | I'w drafod ar 08/11/2023

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod carthion a gaiff eu gollwng i ddyfroedd Cymru yn cyfrif am 25 y cant o'r holl ollyngiadau ledled Cymru a Lloegr;

b) mai yng Nghymru y mae chwech o'r 20 afon mwyaf llygredig yn y DU ledled Cymru a Lloegr; ac

c) mai gan bobl yng Nghymru y mae'r biliau dŵr ail uchaf allan o'r 11 cwmni dŵr yng Nghymru a Lloegr.

2. Yn gresynu nad yw Adroddiad Gorlifiadau Stormydd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd saith mis yn hwyr, yn cynnwys unrhyw argymhellion.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gosod targedau ar Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru sy'n eu rhwymo mewn cyfraith i wella gorlifiadau;

b) cynyddu gorfodaeth a sicrhau bod dirwyon yn cael eu defnyddio i wella afonydd ac adfer cynefinoedd; ac

c) mynd i'r afael â phibellau carthion heb drwyddedau a sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon.

Gorlifiadau Stormydd Cymru: adroddiad (Saesneg yn unig)

Gwelliannau

NDM8397 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 03/11/2023

Ychwanegu fel is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 3:

sicrhau bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru ddigon o adnoddau i'w alluogi i gyflawni ei gyfrifoldebau'n effeithiol; 

rhoi mecanweithiau ar waith i atal taliadau bonws i staff gweithredol pe bai Dŵr Cymru yn methu â chyflawni ei gyfrifoldebau o ran ansawdd dŵr;

cyflymu'r gwaith o weithredu fframweithiau llywodraethu amgylcheddol cadarn yng Nghymru i sicrhau bod achosion o ddiffyg cydymffurfio yn y dyfodol yn cael sylw cyn gynted â phosibl.

NDM8397 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 03/11/2023

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1.  Yn nodi’r cynnydd arwyddocaol yn nifer yr afonydd sydd wedi sicrhau statws ecolegol da yng Nghymru ers 1999.

2.  Yn nodi’r fframwaith cyfreithiol llym y mae cwmnïau dŵr a rheoleiddwyr yn gweithio ynddo.

3.  Yn gwrthwynebu polisi Llywodraeth y DU i godi’r gofynion o ran niwtraleiddio maethynnau a fyddai’n rhoi ein hafonydd bregus mewn mwy o risg. 

4.  Yn nodi:

a) bod Llywodraeth Cymru’n cefnogi rhagor o wahanu dŵr wyneb er mwyn lleihau’r pwysau ar systemau dŵr gwastraff trwy brysuro’r defnydd o systemau rheoli llifogydd yn naturiol a systemau draenio cynaliadwy.

b) y bydd Llywodraeth Cymru’n defnyddio’i phwerau i sicrhau bod holl gwmnïau dŵr Cymru’n gostwng o flwyddyn i flwyddyn nifer yr achosion o lygru, gan weithio at y nod o sero, ond yn y tymor byr, eu bod yn rhoi stop ar bob achos o lygru difrifol.