NNDM8393 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 31/10/2023

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd parhaus cyfnod y Cofio i deuluoedd a chymunedau yng Nghymru.

2. Yn talu teyrnged i wasanaeth ac aberth unigolion o bob rhan o Gymru sydd yn gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog.

3. Yn cydnabod gwaith diflino sefydliadau, unigolion a gwirfoddolwyr sy'n cefnogi cymuned a chyn-aelodau’r lluoedd arfog ledled Cymru.

Gwelliannau

NNDM8393 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 01/11/2023

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cefnogi'r angen i ymdrechu am ddatrysiadau heddychlon i bob gwrthdaro ac am ddiwedd ar ryfel.

Yn cofio pawb sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd a gwrthdaro, gan gynnwys cwympiedigion sifil.