NDM8384 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 11/10/2023 | I'w drafod ar 18/10/2023

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â digartrefedd yng Nghymru.

2. Yn credu na fydd Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru yn cyflawni'r canlyniadau a ddymunir.

3. Yn nodi gyda phryder fod nifer yr unigolion sy'n cysgu ar y stryd wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers 2020.

4. Yn cydnabod nad yw saith awdurdod lleol yn cofnodi gwybodaeth am farwolaethau digartrefedd.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu rhwydwaith ar gyfer Cymru sy'n cyfateb i'r Combined Homelessness and Information Network, i sicrhau bod digon o ddata ar gael i fynd i'r afael â digartrefedd yng Nghymru a'i effaith.  

Papur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru

Gwelliannau

NDM8384 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 13/10/2023

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Yn cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu’r diwygio dewr, uchelgeisiol a radical ar gyfer y dyfodol a nodir yn y Papur Gwyn ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd a ddatblygwyd fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.

2. Yn nodi cyfraniad hanfodol y rhai sydd â phrofiad bywyd o ddigartrefedd wrth baratoi’r Papur Gwyn a barn Prif Weithredwr Crisis bod yr uchelgais a welir ynddo yn arwain y byd.

3. Yn annog ymatebion i’r ymgynghoriad a fydd yn helpu i lunio’r dull o fynd i’r afael â digartrefedd yng Nghymru yn y dyfodol.

Papur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru