NNDM8382 - Dadl Aelodau
Wedi’i gyflwyno ar 11/10/2023Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) y defnydd cyffredin o dechnoleg adnabod wynebau byw ledled Cymru gan heddluoedd yng Nghymru;
b) bod tuedd bosibl mewn technoleg adnabod wynebau byw a allai fod yn niweidiol i unigolion a chymunedau; ac
c) y niwed posibl o ddefnyddio technoleg adnabod wynebau byw heb reoleiddio digonol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu Cymru i:
a) sicrhau bod holl yr ddatblygiadau presennol ym maes technoleg adnabod wynebau byw yn gymesur, yn deg ac yn anwahaniaethol; a
b) gweithio gyda chymunedau ledled Cymru i ddeall eu pryderon ynghylch technoleg adnabod wynebau byw a sicrhau bod y pryderon hyn yn cael sylw.