NDM8381 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 11/10/2023 | I'w drafod ar 25/10/2023

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod yr Holodomor yn drosedd a bennwyd ymlaen llaw, a gyflawnwyd ac a arweiniwyd gan Stalin a'r Llywodraeth Sofietaidd yn erbyn pobl Wcráin.

2. Yn ystyried bod yr Holodomor yn weithred o hil-laddiad.

3. Yn nodi rôl hollbwysig y newyddiadurwr o Gymru, Gareth Jones, wrth ddod â chreulondeb yr Holodomor i sylw'r byd.

4. Yn parhau i sefyll gyda phobl Wcráin wrth iddynt wynebu rhyfel anghyfreithlon Putin.