NDM8375 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 04/10/2023 | I'w drafod ar 11/10/2023Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod HS2 yn brosiect i Loegr yn unig.
2. Yn gresynu bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod darparu'r cyllid canlyniadol llawn y dylai Cymru ei gael o ganlyniad i HS2.
3. Yn gresynu hefyd fod Plaid Lafur y DU yn gwrthod cytuno y dylai Cymru gael y cyllid canlyniadol llawn.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i unioni’r cam hwn, a darparu'r cyllid sy'n ddyledus i Gymru ar unwaith, fel y gallwn fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith y mae'r Senedd hon yn dymuno eu blaenoriaethu, gan gynnwys trydaneiddio pob rheilffordd yng Nghymru.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn credu y dylai Cymru dderbyn cyllid canlyniadol.
Cyflwynwyd gan
Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi rhaglen gynhwysfawr o fuddsoddi yn rheilffyrdd Cymru a fydd yn cael ei datblygu a’i chymeradwyo gan Fwrdd Rheilffyrdd ar y Cyd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.