NNDM8371 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Wedi’i gyflwyno ar 27/09/2023

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil fyddai'n addasu'r broses gynllunio fel y byddai rhagdybiaeth yn erbyn caniatáu datblygiadau chwarel yn agos at gartrefi a chyfleusterau cymunedol.

2. Yn nodi mai pwrpas y Bil fyddai ei gwneud yn ofynnol i’r broses gynllunio sicrhau nad oes unrhyw ddatblygiad chwarel yn effeithio ar iechyd y cyhoedd na’r amgylchedd.