NDM8370 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Wedi’i gyflwyno ar 27/09/2023 | I'w drafod ar 17/01/2024Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar sicrwydd hinsawdd i blant a phobl ifanc.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) diwygio Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 i sicrhau bod y cwricwlwm ysgol yn cynnwys dealltwriaeth o ddifrifoldeb a brys yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng ecolegol fel cysyniad allweddol ar draws pob maes dysgu a phrofiad;
b) sicrhau bod y cwricwlwm yn adlewyrchu brys ac anghenraid mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a diogelu'r amgylchedd ecolegol;
c) sicrhau nad yw addysgu o'r fath wedi'i gyfyngu i bynciau traddodiadol sy'n cwmpasu'r maes hwn, ond wedi'i wreiddio ar draws pob maes dysgu a phrofiad;
d) cydnabod pwysigrwydd dysgu isganfyddol a hyrwyddo amgylchedd cynaliadwy lle y gall dysgu ddigwydd; ac
e) dechrau mynd i'r afael â phryder hinsawdd ymhlith plant a phobl ifanc.