NDM8369 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 27/09/2023 | I'w drafod ar 04/10/2023Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod gwasanaethau bws yn hanfodol i gysylltedd cymunedau Cymru ac i blant sy'n teithio i'r ysgol.
2. Yn nodi bod y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr wedi rhybuddio am doriadau pellach i ddarpariaeth gwasanaethau bysiau Cymru heb warantau pendant ynghylch cyllid hirdymor gan Lywodraeth Cymru.
3. Yn gresynu bod bron i 10 y cant o lwybrau bysiau Cymru wedi cael eu dileu dros yr haf oherwydd bod cyllid y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau wedi dod i ben.
4. Yn gresynu y bydd diwedd Grant y Rhaglen Datblygu Gwledig yn arwain at gau gwasanaeth fflecsi Bwcabus yn llwyr ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro erbyn 31 Hydref ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei fod yn cael ei adfer.
5. Yn credu y gellid gosod rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Cymru ar sail gynaliadwy pe bai Cymru'n cael ei chyfran deg o gyllid HS2.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu gwasanaethau bysiau ledled Cymru, buddsoddi ynddynt a’u hehangu.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu pwyntiau 2, 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru, erbyn diwedd 23/24, wedi darparu gwerth dros £200m o gyllid brys i’r diwydiant bysiau.
Yn nodi bod methiant Llywodraeth y DU i gadw at ei haddewid, sef na fyddem mewn sefyllfa waeth yn sgil Brexit, wedi arwain awdurdodau lleol at derfynu’r gwasanaeth Bwcabws.