NDM8368 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Wedi’i gyflwyno ar 27/09/2023 | I'w drafod ar 11/10/2023Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) hyrwyddo diogelwch cymunedol yn dilyn nifer cynyddol o ymosodiadau difrifol gan gŵn ledled Cymru gan gynnwys rhai marwolaethau trasig;
b) cyflwyno canllawiau a rheoliadau i unrhyw un sy'n dymuno bod yn berchen ar fridiau cŵn penodol, lle mae'n rhaid i berchnogion gyflawni meini prawf penodol i fod yn berchen ar gi a allai fod yn beryglus;
c) ymgynghori â rhanddeiliaid i sefydlu diffiniad o gi a allai fod yn beryglus;
d) gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sefydlu partneriaethau i weinyddu'r rheoliadau a chyflawni dull gweithredu cyson ar draws Cymru; ac
e) hyrwyddo mentrau lleol a chenedlaethol gyda'r nod o wella lles anifeiliaid, gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd ac addysgu'r cyhoedd ynghylch perchnogaeth gyfrifol ar gŵn.