NDM8366 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Wedi’i gyflwyno ar 27/09/2023 | I'w drafod ar 15/11/2023

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n atal gwerthu e-sigaréts untro.

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:

a) atal e-sigaréts untro rhag cael eu gwerthu;

b) cyflawni cyfrifoldebau byd-eang Cymru o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol;

c) mynd i'r afael â'r ffaith bod e-sigaréts untro yn berygl i iechyd y cyhoedd;

d) diogelu cenedlaethau'r dyfodol rhag problemau iechyd gan gynnwys niwed i’r ysgyfaint; ac

e) rhoi’r gorau i ddefnyddio lithiwm mewn cynhyrchion untro.