NDM8361 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 20/09/2023 | I'w drafod ar 27/09/2023

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod asedau cymunedol yn gweithredu fel hybiau lleol ac yn darparu mynediad pwysig at wybodaeth, gwasanaethau, sgiliau a phrofiadau cymdeithasol.

2. Yn cydnabod ymhellach fod asedau cymunedol yn gwella cydlyniant cymunedol ac yn caniatáu i gymunedau lleol gymryd rheolaeth dros lunio'r ardal y maent yn byw ynddi.

3. Yn nodi adroddiad Archwilio Cymru ar gydnerthedd a hunanddibyniaeth cymunedau, sy’n nodi bod awdurdodau lleol yn ei chael hi’n anodd grymuso pobl a chymunedau i fod yn fwy hunanddibynnol ac yn llai dibynnol ar wasanaethau.

4. Yn gresynu nad oes hawl statudol i gymunedau yng Nghymru brynu tir neu asedau fel yn yr Alban, a dim hawl i wneud cynigion, herio, nac adeiladu fel yn Lloegr.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) diogelu asedau cymunedol drwy alluogi pobl leol i reoli ac ehangu cyfleusterau sydd o fudd i’r gymuned leol; a

b) cyflwyno Cronfa Perchnogaeth Gymunedol a chynllun Hawl i Wneud Cynnig i gefnogi meddiannu asedau megis llyfrgelloedd, tafarndai, canolfannau hamdden a mannau gwyrdd.

Archwilio Cymru: 'Gyda’n gilydd fe allwn ni’ – Cydnerthedd a hunanddibyniaeth cymunedau

Gwelliannau

NDM8361 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 22/09/2023

Dileu pwyntiau 4 a 5 a rhoi yn eu lle:

Yn croesawu ymrwymiad hirdymor Llywodraeth Cymru i:

a)    amddiffyn asedau cymunedol drwy alluogi pobl leol i gynnal ac ehangu cyfleusterau sydd er budd i’r gymuned leol;

b)    cydnabod, hyrwyddo a rhannu arferion gorau ar draws y sector cyhoeddus drwy Ystadau Cymru; ac

c)    sefydlu Comisiwn Asedau Cymunedol â chylch gorchwyl i ysgogi syniadau arloesol pellach ar berchnogaeth gymunedol o dir ac asedau yng Nghymru.