NDM8356 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 13/09/2023 | I'w drafod ar 20/09/2023

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi honiadau'r Prif Weinidog bod yn rhaid i wasanaethau cyhoeddus Cymru wneud toriadau oherwydd diffyg o £900m yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

2. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y lefelau uchaf erioed o gyllid gan Lywodraeth y DU yn ystod y blynyddoedd diweddar.

3. Yn gresynu, er bod Llywodraeth Cymru yn derbyn 20 y cant yn fwy i'w wario ar iechyd yng Nghymru na'r hyn a gaiff ei wario fesul person ar iechyd yn Lloegr, nid yw'r holl gyllid hwnnw'n cael ei ddyrannu ar hyn o bryd i GIG Cymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y gyllideb iechyd yn cael ei diogelu rhag unrhyw doriadau pellach yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.

Gwelliannau

NDM8356 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 15/09/2023

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi honiadau'r Prif Weinidog bod yn rhaid i wasanaethau cyhoeddus Cymru wneud toriadau oherwydd diffyg chwyddiant o £900m mewn termau real ers yr adolygiad o wariant yn 2021.

2. Yn credu bod Llywodraethau San Steffan wedi methu â darparu cyllid teg a digonol i Gymru ers dechrau datganoli.

3. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i ragweld yr anawsterau ariannol hyn a pharatoi atynt.

4. Yn gresynu at y diffyg cyfleoedd a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i'r Senedd graffu ar unrhyw doriadau arfaethedig.

5.. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu cyllid ar gyfer pob gwasanaeth rheng flaen, gan gynnwys y GIG.

NDM8356 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 15/09/2023

Dileu popeth a rhoi yn ei le: 

Cynnig bod y Senedd:

1.    Yn nodi bod Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 23/24, adeg Cyllideb Gwanwyn y DU, yn werth £900m yn llai na’r hyn a ddisgwyliwyd ar adeg yr Adolygiad o Wariant y DU yn 2021.

2.    Yn gresynu at yr effaith ar Gymru yn sgil camreolaeth o economi ac arian cyhoeddus y DU gan lywodraethau Ceidwadol olynol yn San Steffan.

3.    Yn galw ar Ganghellor y Trysorlys i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y GIG, a seilwaith cyhoeddus yn Natganiad yr Hydref, gan sicrhau bod Cymru’n cael ei chyfran deg o gyllid canlyniadol.