NDM8355 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 13/09/2023 | I'w drafod ar 20/09/2023Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod canlyniad yr arwerthiant diweddaraf yn y DU ar gyfer ynni gwynt ar y môr yn golygu na fydd ffermydd gwynt newydd ar y môr yn cael eu datblygu yng Nghymru hyd y gellir rhagweld.
2. Yn nodi bod adroddiad diweddaraf y Pwyllgor Newid Hinsawdd annibynnol ar gyfer y DU gyfan ar gynnydd agenda datgarboneiddio Llywodraeth Cymru yn dod i'r casgliad nad yw Cymru ar y trywydd iawn ar hyn o bryd i gyflawni ei nodau Sero Net erbyn 2050.
3. Yn nodi bod adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig ar Gytundeb Paris yn pwysleisio'r angen i allyriadau tanwydd ffosil gyrraedd uchafbwynt erbyn 2025 fan bellaf er mwyn sicrhau bod cynhesu byd-eang wedi'i gyfyngu i 1.5 gradd yn uwch na lefelau cyn-ddiwydiannol.
4. Yn credu bod gan Gymru y potensial i fod yn bwerdy ar gyfer ynni glân ac adnewyddadwy.
5. Yn credu bod y potensial hwn yn cael ei wastraffu ar hyn o bryd o ganlyniad i ddulliau polisi Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth ddiwydiannol werdd newydd i Gymru wireddu ei photensial economaidd mewn ynni gwyrdd a sicrhau bod cynnydd tuag at ei nodau Sero Net yn cael ei gyflymu.
Progress report: Reducing emissions in Wales
United Nations: Technical dialogue of the first global stocktake
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod yr arwerthiant diweddaraf yn y DU ar gyfer contractau ynni adnewyddadwy wedi arwain at 3.7GW o brosiectau pŵer solar, gwynt ar y tir a phŵer llanw ledled y DU.
Cyflwynwyd gan
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru yn diddymu grantiau ardrethi busnes ar gyfer prosiectau hydrodrydanol ar raddfa fach.
Cyflwynwyd gan
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn llongyfarch cyrff cyhoeddus a busnesau yng Ngogledd Cymru am lwyddo i sicrhau arian ar gyfer y cyflwyniad mwyaf erioed o dechnoleg ynni llif y llanw yng Nghymru trwy ddyfarniad Rownd 5 diweddaraf y Contract ar gyfer Gwahaniaeth.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i weithio gyda’i gilydd i gyflymu cyflwyno tyrbinau gwynt alltraeth arnofiol, gan gynnwys gweithredu argymhellion Tasglu Cyflymu Gwynt Alltraeth
3. Yn cydnabod sefydlu Diwydiant Sero Net Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i weithio gyda’i gilydd i ddatblygu llwybrau datgarboneiddio ar gyfer diwydiant.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ymateb ar fyrder i argymhellion yr adroddiad cynnydd diweddaraf ar Gymru gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, gan gynnwys paratoi cynlluniau i sicrhau gostyngiad o 10% yn y car-km y person erbyn 2030, pennu llwybr datgarboneiddio ar gyfer amaethyddiaeth a chyflymu cyfraddau plannu coed trwy chwalu rhwystrau anariannol.
b) sicrhau bod Ynni Cymru’n galluogi cymunedau i chware rhan hanfodol yn y broses o wneud Cymru’n bwerdy ar gyfer ynni glân ac adnewyddadwy.
c) sicrhau bod Trydan Gwyrdd Cymru’n helpu i gynyddu’r manteision economaidd i Gymru a ddaw trwy’r trawsnewid ynni trwy roi incwm i’r pwrs cyhoeddus a sbarduno cadwyni cyflenwi Cymreig.
5. Yn cytuno â chanfyddiadau adroddiad diweddar y Cenhedloedd Unedig ar Ddeialog Dechnegol y Stoc-gyfrif Byd-eang cyntaf ar weithredu Cytundeb Paris bod modd osgoi effeithiau gwaetha'r newid yn yr hinsawdd os bydd pob gwlad yn cymryd camau eofn i gyflawni targedau anodd.
Offshore Wind Acceleration Taskforce (Saesneg yn unig)
Climate Change Committee Progress Report: Reducing Emissions in Wales (Saesneg yn unig)
UN report on the Technical Dialogue of the first Global Stocktake on the implementation of the Paris Agreement (Saesneg yn unig)