NDM8347 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 06/09/2023 | I'w drafod ar 13/09/2023

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiddymu Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022, sydd i ddod i rym ar 17 Medi 2023.

Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022

Gwelliannau

NDM8347 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 07/09/2023

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

1)     Yn nodi Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022.

2)     Yn nodi bod gostwng terfynau cyflymder lle mae pobl a cherbydau yn rhyngweithio fwyaf yn gallu achub bywydau.

3)     Yn nodi bod eithriadau yn bosibl mewn lleoliadau y bernir eu bod yn briodol gan awdurdodau lleol.

4)     Yn nodi pwysigrwydd cefnogaeth gymunedol i unrhyw newidiadau i'r terfyn cyflymder er mwyn sicrhau y gellir lleddfu pryderon gwirioneddol ac yn nodi ymhellach y gellir nodi rhagor o eithriadau ar ôl cyflwyno terfynau newydd.

5)     Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i adolygu effaith y terfynau newydd, grymuso awdurdodau lleol i wneud unrhyw eithriadau pellach a darparu cyllid digonol i awdurdodau lleol i hwyluso cyflwyno terfynau newydd.


Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022