NNDM8335 - Dadl y Senedd
Wedi’i gyflwyno ar 12/07/2023Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3:
1. Yn sefydlu Pwyllgor Biliau Diwygio i graffu ar Filiau a gyfeirir ato gan y Pwyllgor Busnes.
2. Yn cytuno y bydd y Pwyllgor yn cael ei ddiddymu naill ai:
a) pan fydd yr holl Filiau a gyfeiriwyd at y Pwyllgor wedi cael y Cydsyniad Brenhinol ac mae’r Pwyllgor Busnes wedi penderfynu na fydd unrhyw Filiau pellach yn cael eu cyfeirio at y Pwyllgor; neu
b) pan fydd y Senedd yn penderfynu felly;
pa un bynnag sydd gynharaf.