NNDM8331 - Dadl y Senedd
Wedi’i gyflwyno ar 05/07/2023Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Gorffennaf 2023.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog er mwyn ychwanegu Rheol Sefydlog 35 newydd, fel y nodir yn Atodiad A o adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi bod y newidiadau hyn yn rhai dros dro, ac y byddant yn peidio â chael effaith yn dilyn penderfyniad gan y Senedd y dylai’r Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru ddod i ben, neu pan gaiff y Senedd hon ei diddymu, pa un bynnag sydd gyntaf.