NDM8329 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 05/07/2023 | I'w drafod ar 12/07/2023

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r gwaith ymgysylltu a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid yn ymwneud â blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2024-25, ac yn nodi ymhellach y sylwadau a wnaed gan gyfranogwyr yn y digwyddiadau a ganlyn:

a) digwyddiad i randdeiliaid ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam;

b) gweithdy gydag aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru; a

c) grwpiau ffocws ymgysylltu â dinasyddion.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25: Adroddiad Cryno ar Ymgysylltu y Pwyllgor Cyllid