NDM8325 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 04/07/2023 | I'w drafod ar 11/07/2023

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):

Yn nodi:

a) adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2022/23;

b) y cynnydd mewn perthynas â’r rhaglen ddeddfwriaethol.

Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2023

Gwelliannau

NDM8325 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 05/07/2023

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu'r cynnydd parhaus a wnaed fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru sydd wedi rhoi nifer o bolisïau trawsnewidiol ar waith fel rhan o'r Rhaglen Lywodraethu.

NDM8325 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 05/07/2023

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod yr adroddiad blynyddol a'r rhaglen ddeddfwriaethol yn dangos nad oes gan Lywodraeth Cymru yr holl ddulliau angenrheidiol i sicrhau gwelliannau ystyrlon a chynaliadwy i fywydau pobl Cymru, bod yn rhaid i ni barhau i gyflwyno'r achos dros bwerau ychwanegol ond, yn y pen draw, mai annibyniaeth yw'r ffordd fwyaf ymarferol o sicrhau Cymru wyrddach, decach a fwy ffyniannus.

NDM8325 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 06/07/2023

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod yr adroddiad blynyddol yn tynnu sylw at fethiannau sylweddol Llywodraeth Cymru o ran cyflawni ar gyfer pobl Cymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r pwysau sydd ar y systemau iechyd ac addysg, sydd ill dwy wedi derbyn toriadau tymor real yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24.

Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r bwlch mewn cyflog mynd adref rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig, yn ogystal â'r ffaith mai gan Gymru y mae cyfradd gyflogaeth isaf y DU.

Yn gresynu at y ffaith na fydd y rhaglen ddeddfwriaethol yn cyflawni'r newid sydd ei angen ar Gymru.