NDM8315 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2023 | I'w drafod ar 05/07/2023Cynnig bod y Senedd:
1. Yn dathlu 75 mlynedd ers creu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
2. Yn nodi rhybudd Cymdeithas Feddygol Prydain bod gwasanaethau meddygon teulu a Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru mewn argyfwng ac mewn perygl o chwalu.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau 75 mlynedd nesaf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol drwy ddiwallu anghenion cleifion a staff a chynnal yr egwyddor graidd o fod yn am ddim lle bynnag y bo’i angen.
Achubwch Ein Meddygfeydd, PMT Cymru - Cymdeithas Feddygol Prydain
Llythyr gan Gymdeithas Feddygol Prydain at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod preifateiddio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn fygythiad sylfaenol i'n gwasanaeth iechyd ac y dylai darparu gofal iechyd am ddim lle bynnag y bo’i angen barhau i fod yr egwyddor wrth wraidd darpariaeth gofal iechyd yng Nghymru.