NDM8309 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 27/06/2023 | I'w drafod ar 04/07/2023

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi adroddiad Hefin David AS, ‘Pontio i Fyd Gwaith: Adroddiad i Lywodraeth Cymru’.

2. Yn cydnabod rôl addysg wrth ddarparu’r sgiliau a’r hyfforddiant sydd eu hangen ar ddysgwyr yng Nghymru er mwyn ymateb i ofynion economi Cymru.

Pontio i Fyd Gwaith: Adroddiad i Lywodraeth Cymru

Gwelliannau

NDM8309 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 29/06/2023

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu na ddylai'r baich ariannol ar gyfer prentisiaethau gradd ddisgyn ar yr unigolyn ac y dylai pob fath o addysg fod yn rhad ac am ddim.