NDM8302 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2023 | I'w drafod ar 27/06/2023

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Y Bil Diogelwch Ar-Lein i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Troednodyn:

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mawrth 2022 a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Medi 2022, 8 Tachwedd 2022, 21 Rhagfyr 2022 a 1 Mehefin 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:

Bil Diogelwch Ar-lein - Senedd y DU (Saesneg yn unig)