NDM8294 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 07/06/2023 | I'w drafod ar 14/06/2023

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod nifer y plant a phobl ifanc sy'n derbyn cymorth anghenion dysgu ychwanegol (ADY) wedi gostwng ers cyflwyno diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol y llynedd;

b) bod oedi a heriau wrth gyflwyno diwygiadau ADY yn achosi loteri cod post mewn mynediad at gymorth ADY i ddysgwyr ledled Cymru; ac

c) bod ymchwil gan Gymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru wedi canfod bod 94 y cant o arweinwyr ysgolion yn dweud nad yw cyllid i ymdrin â phob agwedd ar ddeddfwriaeth ADY newydd yn ddigonol.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynnal adolygiad brys o weithredu diwygiadau ADY;

b) cymryd camau brys i sicrhau bod plant ag ADY yn cael eu hadnabod a'u bod yn cael mynediad at gymorth yn gynt; ac

c) darparu cymorth ariannol ychwanegol yn uniongyrchol i ysgolion Cymru i sicrhau bod dysgwyr ag ADY yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt. 

'Methiant i Fuddsoddi: Cyflwr cyllido ysgolion Cymru yn 2021' - NAHT Cymru 

Gwelliannau

NDM8294 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 09/06/2023

Mewnosoder ar ddiwedd is-bwynt 1(b):

gyda phrinder penodol o ddarpariaeth Gymraeg.

Cyflwynwyd gan

NDM8294 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 09/06/2023

Mewnosod fel isbwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

cymryd camau ar unwaith i leddfu pryderon gan ddarparwyr cyfrwng Cymraeg ynghylch argaeledd adnoddau Cymraeg i gefnogi gwaith ADY, a sicrhau bod yr holl adnoddau'n cael eu cyhoeddi'n ddwyieithog

Cyflwynwyd gan

NDM8294 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 09/06/2023

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod

Estyn wedi canfod bod cynnydd cyson tuag at roi’r diwygiadau ADY ar waith a bod y newidiadau yn cael eu croesawu'n gyffredinol.

ymchwil yn canfod bod y Cwricwlwm i Gymru a’r cod ADY yn hyrwyddo ffocws ar degwch a chynwysoldeb i bob dysgwr.

cyfnod gweithredu’r diwygiadau ADY wedi'i ymestyn er mwyn sicrhau bod teuluoedd yn cael y cymorth gorau posibl, a’r cyllid gweithredu wedi cynyddu er mwyn helpu i gynllunio ar gyfer diwallu anghenion dysgwyr unigol.

Diwygio anghenion dysgu ychwanegol - Estyn

Ymchwil gydag ysgolion ar weithrediad cynnar y Cwricwlwm i Gymru: Adroddiad Cam 1