NNDM8286 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 02/06/2023

Cynnig bod Senedd Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio), a nodir yn Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Rhif 5, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd

Troednodyn:

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Mai, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Gellir cael copi o'r Bil ar wefan Senedd y DU:

https://bills.parliament.uk/bills/3340