NDM8282 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 31/05/2023 | I'w drafod ar 07/06/2023

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu y dylid cyhoeddi adroddiad fforensig Ernst & Young o faterion cyfrifeg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn llawn ac y dylai fod yn y parth cyhoeddus.

2. Yn galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyhoeddi adroddiad Ernst & Young.

3. Yn gofyn, o ystyried canfyddiadau Ernst & Young, fod adolygiad ehangach ac annibynnol yn cael ei ystyried i roi sicrwydd:

a) nad yw'r arferion a nodwyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn digwydd mewn sefydliadau GIG eraill yng Nghymru; a

b) nad oedd arferion tebyg wedi effeithio ar flynyddoedd ariannol cyn y rhai a adolygwyd gan Ernst & Young 

Gwelliannau

NDM8282 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 02/06/2023

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1.    Yn cydnabod y diddordeb sylweddol yn adroddiad fforensig Ernst & Young o faterion cyfrifyddu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac yn nodi galwadau i’w gyhoeddi.

2.    Yn nodi bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn mynd i’r afael â’r materion a godwyd yn adroddiad Ernst & Young yn unol â gweithdrefnau a pholisïau presennol a’i fod yn ceisio cyngor cyfreithiol ynglŷn â’i gyhoeddi.

3.    Yn nodi rôl Archwilio Cymru yn rhoi sicrwydd ar reoli arian cyhoeddus a bwriad Llywodraeth Cymru i gynnal ymarfer dysgu gwersi a rhannu’r canfyddiadau ymysg sefydliadau’r GIG.