NDM8281 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor
Wedi’i gyflwyno ar 31/05/2023 | I'w drafod ar 07/06/2023Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Strategaeth a chynllun gweithredu seilwaith gwefru cerbydau trydan Llywodraeth Cymru’, a osodwyd ar 28 Mawrth 2023.
Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Mai 2023.