NNDM8280 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 31/05/2023

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod anghydraddoldebau iechyd yn wahaniaethau annheg y gellir eu hosgoi o ran mynediad a chanlyniadau iechyd ar draws y boblogaeth, a rhwng gwahanol grwpiau o fewn cymdeithas.

2. Yn cydnabod bod anghydraddoldebau iechyd yn cael effaith fwy ac anghymesur ar fenywod, ac y gallant ddeillio o amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys gwahaniaethau mewn incwm, agosrwydd at ofal, tai a chyrhaeddiad addysgol.

3. Yn nodi bod anghydraddoldebau iechyd yn bodoli cyn y pandemig, ond bod pandemig COVID-19 a'r argyfwng costau byw wedi'u gwaethygu.

4. Yn cydnabod bod mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn gofyn am ddull cyfannol, cydgysylltiedig ar draws holl adrannau'r Llywodraeth.

5. Yn gresynu at y ffaith bod lefelau anghydraddoldeb iechyd cyfredol yn costio tua £322 miliwn i GIG Cymru bob blwyddyn.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) datblygu cynllun trawslywodraethol sy'n amlinellu strategaethau a thargedau clir i holl adrannau'r Llywodraeth leihau anghydraddoldebau iechyd;

b) parhau i fuddsoddi a gwella mynediad at raglenni atal sydd wedi'u lleoli mewn gofal sylfaenol a chymunedol, yn benodol ar gyfer y rhai sy'n byw mewn tlodi.