NDM8279 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2023 | I'w drafod ar 07/06/2023

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu:

a) y dylai Cymru gael rheolaeth lawn dros ei hadnoddau dŵr, gan gynnwys y gallu i reoleiddio trosglwyddo dŵr y tu hwnt i'w ffiniau; 

b) y byddai datganoli pwerau dros ddŵr ymhellach hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i fynd i'r afael â'r broblem o ollyngiadau carthion i afonydd a moroedd Cymru mewn modd mwy effeithlon; ac 

c) bod preifateiddio dŵr yn fodel aflwyddiannus sydd wedi arwain at filiau cynyddol a dirywiad trychinebus yn ansawdd dŵr Cymru.   

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gofyn yn ffurfiol am gychwyn adran 48(1) o Ddeddf Cymru 2017, a fyddai'n alinio cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd dros ddŵr yn llawn â ffin ddaearyddol Cymru; 

b) gofyn yn ffurfiol am ragor o bwerau dros drwyddedu ymgymerwyr carthion yng Nghymru; ac   

c) cyflwyno deddfwriaeth o fewn tymor presennol y Senedd i osod cynlluniau draenio a rheoli dŵr gwastraff cwmnïau dŵr yng Nghymru ar sail statudol.

Cyflwynwyd gan

Gwelliannau

NDM8279 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 02/06/2023

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod cyfrifoldeb dros reoli llygredd wedi'i ddatganoli i Gymru. 

2. Yn gresynu at y ffaith bod 25 y cant o'r oriau a gofnodwyd o ollyngiadau carthion yng Nghymru a Lloegr yn 2022 wedi mynd i ddyfrffyrdd Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) diweddaru'r cynllun gweithredu i fynd i'r afael â gollyngiadau carthion i afonydd, llynnoedd a moroedd Cymru;

b) cyhoeddi adroddiad tasglu Llywodraeth Cymru ar orlifiadau stormydd; ac

c) gweithredu targedau statudol i gwmnïau dŵr wella gorlifiadau stormydd.

NDM8279 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 02/06/2023

Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd bwynt 2:

defnyddio ei phwerau i’w gwneud yn ofynnol bod pob buddsoddiad strategol mewn seilwaith dŵr sy’n effeithio ar Gymru, gan gynnwys trosglwyddiadau, yn dod â budd i gymunedau ac amgylchedd naturiol Cymru.

gweithio gyda phartneriaid i ddiogelu dyfodol adnoddau dŵr Cymru trwy fynd i’r afael â phob gwasgfa ar yr adnoddau hynny, sef o ddŵr gwastraff, dŵr ffo trefol, camgysylltiadau, llygredd gwledig gwasgaredig, newidiadau ffisegol, hen lofeydd a rhywogaethau goresgynnol.

neilltuo cyllid ychwanegol i’r Byrddau Rheoli Maethynnau i brysuro’u gwaith o ddiogelu adnoddau dŵr.

neilltuo cyllid ychwanegol ar gyfer grantiau cyfalaf i ffermwyr iddynt allu gwella seilwaith sy’n diogelu adnoddau dŵr

cynyddu’r defnydd o ddata gwyddoniaeth y dinesydd er mwyn i ni allu deall yn well y gwasgfeydd ar adnoddau dŵr.  

datblygu dulliau ar lefel dalgylch gyfan ar gyfer cydsynio a gwelliannau strategol wrth reoli adnoddau dŵr cenedlaethol.