NNDM8276 - Dadl y Senedd

Wedi’i gyflwyno ar 24/05/2023

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2T, yn penderfynu na fydd Rheolau Sefydlog 17.2A i 17.2S (ethol cadeiryddion pwyllgorau) yn gymwys mewn perthynas â Phwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru.

2. Yn penderfynu, at ddibenion Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru, y dylid dehongli cyfeiriadau yn y Rheolau Sefydlog at 'gadeirydd' pwyllgor i olygu 'cyd-gadeirydd' a bod yn rhaid i swyddogaethau cadeiryddion pwyllgorau a amlinellir yn y Rheolau Sefydlog gael eu harfer ar y cyd gan Gyd-gadeiryddion Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru.

3. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

a) Vikki Howells (Llafur Cymru), Jack Sargeant (Llafur Cymru), Altaf Hussain (Ceidwadwyr Cymreig) ac Adam Price (Plaid Cymru) yn aelodau o Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru; a

b) Joyce Watson (Llafur Cymru) a Tom Giffard (Ceidwadwyr Cymreig) yn Gyd-gadeiryddion Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru.

4. Yn penderfynu cyfarwyddo y dylai busnes cychwynnol Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru ystyried y gweithdrefnau y mae'n bwriadu eu mabwysiadu i gyflawni'r dibenion y mae wedi'u sefydlu ar eu cyfer (gan gynnwys gweithredu’r trefniadau cyd-gadeirio) ac argymell unrhyw ddiwygiadau i'r Rheolau Sefydlog y mae'n eu hystyried yn angenrheidiol neu'n fuddiol i hwyluso ei waith.

5. Yn nodi y bydd y Pwyllgor Busnes yn cynnig unrhyw ddiwygiadau i'r Rheolau Sefydlog y mae o’r farn sydd eu hangen i hwyluso gwaith Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru, gan ystyried unrhyw argymhellion ar gyfer diwygiadau a wneir gan Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru.