NDM8275 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 23/05/2023 | I'w drafod ar 14/06/2023

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig yn wynebu argyfyngau lluosog, sef yr argyfwng costau byw, yr argyfwng ynni, a'r argyfyngau hinsawdd a natur, a bod ymgyrch Warm This Winter yn cydnabod bod yr argyfyngau hyn yn gysylltiedig ac wedi'u hymblethu, a bod yr un ffactorau wedi'u hachosi a'r un atebion sydd iddynt.

2. Yn nodi bod ymgyrch Warm This Winter yng Nghymru yn galw am gymorth brys i'r rhai mwyaf bregus.

3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno buddsoddiad i gefnogi aelwydydd bregus y gaeaf diwethaf, ei bod wedi cyhoeddi cwmni ynni cyhoeddus newydd i Gymru, a chynlluniau effeithlonrwydd ynni ychwanegol ar gyfer ein cartrefi, ond bod angen gwneud mwy.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio i weithredu atebion ar gyfer llwybr gwirioneddol allan o'r argyfwng costau byw, drwy gydnabod bod camau allweddol i fynd i'r afael â diogelwch ynni a'r argyfwng hinsawdd - fel cynnydd mawr mewn effeithlonrwydd ynni a chyflwyno ynni cymunedol ledled Cymru. 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i godi pryderon gyda Llywodraeth y DU am gost ynni, a'r angen i sicrhau bod cynlluniau cymorth y DU ar waith i sicrhau bod pobl yn gynnes y gaeaf hwn, a phob gaeaf i ddod.