NDM8260 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2023 | I'w drafod ar 16/05/2023

Cynnig bod y Senedd:

1.Yn unol â Rheol Sefydlog 16.5:

a) Yn sefydlu Pwyllgor Diben Arbennig ar gyfer Cymru ar Ymchwiliad Covid-19 gyda’r cylch gorchwyl canlynol:

i) Yn dilyn cyhoeddi’r adroddiadau yn y camau unigol o Ymchwiliad Covid-19 y DU ac yng nghyd-destun cylch gorchwyl ac amserlen Ymchwiliad Covid-19 y DU, cynnig i’r Senedd, drwy gynnig, unrhyw fylchau a nodwyd ym mharodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill Cymru yn ystod pandemig Covid-19 y dylid eu harchwilio ymhellach.

ii) Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, cynnal adolygiad o’r meysydd hynny a nodwyd ar gyfer archwilio pellach.

iii) Cyhoeddi adroddiadau a gwneud argymhellion yn unol â hynny.

b) Yn cytuno na fydd y Pwyllgor Diben Arbennig yn ailedrych ar gasgliadau ymchwiliadau Pwyllgorau’r Senedd sydd wedi’u cwblhau ac y dylai geisio osgoi dyblygu.

c) Yn cytuno na fydd y Pwyllgor Diben Arbennig wedi’i wahardd rhag ymchwilio i faterion a archwiliwyd yn flaenorol gan Bwyllgorau’r Senedd pan fo gwybodaeth wedi’i diweddaru a budd clir i’w gael o graffu arnynt ymhellach.

2. Yn galw ar y Pwyllgor Busnes i sicrhau y bydd dadl yn cael ei chynnal yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiadau’r Pwyllgor Diben Arbennig o fewn dau fis i’w cyhoeddi.

3. Yn galw ar y Pwyllgor Busnes, wrth iddo gynnig yr aelodau o’r Pwyllgor Diben Arbennig, i gynnig o leiaf chwe aelod, gan gynnwys y Cadeirydd.