NDM8259 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2023 | I'w drafod ar 10/05/2023Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod 15 – 23 Mai yn Wythnos Twristiaeth Cymru 2023.
2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol a wneir i gymdeithas Cymru gan y sector twristiaeth.
3. Yn gresynu nad yw'r diwydiant twristiaeth wedi gwella o hyd i'r lefelau yr oedd cyn y pandemig.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) dathlu cryfder Cymru fel cyrchfan o'r radd flaenaf ar gyfer twristiaid;
b) annog mwynderau a chyfleusterau twristiaeth i gael eu darparu a'u gwella yng Nghymru;
c) cefnogi darparwyr llety hunanddarpar drwy ddiddymu'r trothwy deiliadaeth 182 diwrnod;
d) rhoi'r gorau i gynigion niweidiol ar gyfer treth dwristiaeth yng Nghymru.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu popeth ar ôl 4b a rhoi yn ei le bwyntiau newydd:
Yn cefnogi diffiniad Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig o ddatblygiad twristiaeth gynaliadwy.
Yn nodi Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 a basiwyd gan y Senedd ym mis Gorffennaf, a gyflwynwyd fel rhan o ymrwymiad ehangach i fynd i’r afael â materion ail gartrefi a thai anfforddiadwy y mae llawer o gymunedau yng Nghymru yn eu hwynebu.
Yn croesawu’r pwerau a’r canllawiau dewisol ar y dreth gyngor ac ail gartrefi. sydd ar gael i awdurdodau lleol, i leihau neu ddileu’r gofyniad i dalu naill ai’r gyfradd premiwm neu gyfradd safonol y dreth gyngor neu’r ddau.
Yn cydnabod bod ardollau ymwelwyr yn gyffredin ar draws y byd, a’u bod yn cael eu defnyddio er budd twristiaid, busnesau a chymunedau lleol, gan helpu i wneud twristiaeth yn gynaliadwy ac yn llwyddiannus.
Yn croesawu’r ymrwymiad i roi’r pŵer i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr os ydynt yn dymuno gwneud hynny, yn amodol ar ymgynghoriad.
Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig - Datblygu Cynaliadwy (Saesneg yn unig)
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022