NDM8252 - Dadl Aelodau
Wedi’i gyflwyno ar 26/04/2023 | I'w drafod ar 10/05/2023Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod anymataliaeth yn parhau i fod yn bwnc tabŵ i fenywod a dynion er ei bod yn fater iechyd cyhoeddus sylweddol;
b) bod dros 90 y cant o famau tro cyntaf yn profi trawma perineol yn ystod genedigaeth sy'n gallu arwain at broblemau anymataliaeth;
c) nad yw 75 y cant o fenywod yn gofyn am gymorth meddygol ar gyfer eu hanymataliaeth er ei bod yn effeithio ar ansawdd eu bywyd waeth pa mor ddifrifol ydyw;
d) bod dynion yn dioddef o anymataliaeth hefyd, yn arbennig yn ddiweddarach mewn bywyd ond mae'n broblem gudd i raddau helaeth.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth ar gyfer mynd i'r afael ag achosion a chanlyniadau anymataliaeth ac i godi ymwybyddiaeth o'r mater ymhlith y cyhoedd.