NNDM8251 - Dadl Aelodau
Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2023Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod 1 ym mhob 5 o bobl yn byw gyda chyflwr ysgyfaint yng Nghymru;
b) bod gan Gymru'r lefel uchaf o farwolaethau anadlol yng ngorllewin Ewrop;
c) nad yw'r gwasanaethau anadlu wedi adfer yn dilyn y pandemig, gyda rhestrau aros ar gyfer adsefydlu ysgyfeiniol mor uchel â thair blynedd mewn rhai rhannau o Gymru;
d) bod Llywodraeth Cymru wedi datblygu datganiad ansawdd newydd ond does dim cynllun gweithredu.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun gwella ar gyfer clefydau anadlol i drawsnewid bywydau pobl sy'n byw gyda chyflyrau'r ysgyfaint.