NDM8235 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2023 | I'w drafod ar 28/03/2023

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Caffael, sef Rhan 1 "Diffiniadau Allweddol", Rhan 2 "Egwyddorion ac Amcanion", Rhan 3 "Dyfarnu Contractau Cyhoeddus a Gweithdrefnau", Rhan 4 "Rheoli Contractau Cyhoeddus", Rhan 5 "Gwrthdaro Buddiannau", Rhan 6 "Contractau Is Na'r Trothwy", Rhan 8 "Gwybodaeth a Hysbysiadau:  Darpariaeth Gyffredinol", Rhan 9 "Rhwymedïau ar gyfer Torri Dyletswydd Statudol", Rhan 10 "Goruchwylio Caffael", Rhan 11 "Awdurdodau Priodol a Chaffael Trawsffiniol", Rhan 12 "Diwygiadau a Dirymiadau", Rhan 13 "Cyffredinol" a darpariaethau cysylltiedig yn Atodlenni 1 i 8, 10 ac 11, i'r graddau y dônt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mehefin 2022 a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Gorffennaf 2022, 6 Rhagfyr 2022, 19 Rhagfyr 2022 a 6 Chwefror 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Y Bil Caffael (Saesneg yn unig) 

Cyflwynwyd gan