NDM8232 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Wedi’i gyflwyno ar 16/03/2023 | I'w drafod ar 29/03/2023Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig i greu Bil twristiaeth Cymru.
2. Yn nodi mai pwrpas y Bil hwn fyddai:
a) dirymu Gorchymyn Bwrdd Croeso Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Bwrdd) 2005;
b) creu bwrdd twristiaeth newydd i Gymru;
c) trosglwyddo swyddogaethau Croeso Cymru a grymoedd Llywodraeth Cymru cysylltiedig i'r bwrdd newydd, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
i) annog pobl i ymweld â Chymru a phobl sy'n byw yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig i fynd ar eu gwyliau yno;
ii) annog darparu a gwella mwynderau a chyfleusterau twristiaeth yng Nghymru;
iii) hyrwyddo cyhoeddusrwydd;
iv) darparu gwasanaethau cynghori a gwybodaeth; a
v) sefydlu pwyllgorau i'w cynghori ynghylch perfformiad ei swyddogaethau.