NDM8230 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2023 | I'w drafod ar 17/05/2023Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i sicrhau bod datblygwyr adeiladau uchel iawn yn gyfrifol am faterion diogelwch.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) creu dyletswydd ar ddatblygwyr i ad-dalu lesddeiliaid am gostau rhesymol a gronnwyd o ganlyniad i faterion diogelwch adeiladau; a
b) gwahardd unrhyw ddatblygwr sy’n gwrthod cyweirio’r diffygion diogelwch tân ar adeiladau a ddatblygwyd ganddynt rhag cael caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw ddatblygiadau newydd yng Nghymru.