NDM8226 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2023 | I'w drafod ar 28/03/2023

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Tachwedd 2022, a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Rhagfyr 2022, 6 Chwefror 2023, a 10 Mawrth 2023, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) (Saesneg yn unig)