NDM8224 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2023 | I'w drafod ar 21/03/2023

Cynnig bod y Senedd yn nodi adroddiad blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar weithrediad Tribiwnlysoedd Cymru yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill 2021 a mis Rhagfyr 2022.

Pedwerydd Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru Ebrill 2021 – Rhagfyr 2022

Gwelliannau

NDM8224 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 15/03/2023

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cefnogi galwadau am lawer mwy o annibyniaeth i Uned Tribiwnlysoedd Cymru, a chreu adran anweinidogol i weinyddu Tribiwnlysoedd Cymru.